Lleoliad:
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 5 Tŷ Hywel a
fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 28 Medi 2023
Amser:
09.29 -
12.47
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13473
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Paul Davies AS (Cadeirydd) Hefin David AS Luke Fletcher AS Vikki Howells AS Samuel Kurtz AS Buffy Williams AS Huw Irranca-Davies AS |
Tystion: |
Nerys Bourne, Gyrfa Cymru Y Gw Anrh David TC Davies AS, Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru Mandy Ifans, Gyrfa Cymru Nikki Lawrence, Gyrfa Cymru Jason McLellan, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Lisa Mytton, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru Dr Barry Walters, Colegau Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Lara Date, Clerc Evan Jones, Dirprwy Glerc Ceri Thomas, Swyddog Cymorth y Pwyllgor Chloe Corbyn, Ymchwilydd Ben Stokes, Ymchwilydd Gareth Thomas, Ymchwilydd Lucy Morgan, Ymchwilydd Jennifer Cottle, Cynghorydd Cyfreithiol Manon Huws, Cynghorydd Cyfreithiol |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau na datganiadau o fuddiant.
2 Papurau i'w nodi
2.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.
2.1 Rheoliadau Cynhyrchion Diogelu Planhigion (Diwygiadau Amrywiol) 2023
2.2 Cefnogaeth gyda thrawsnewid Tata Steel
2.3 Cyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - 5 Gorffennaf 2023: Sesiwn graffu ar y cyd gyda Gweinidogion ar addysg a sgiliau ôl-16
3 Pwysau costau byw a’r Warant i Bobl Ifanc - Panel 1
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 5 Tŷ Hywel a
fideogynadledda drwy Zoom
4 Pwysau costau byw a’r Warant i Bobl Ifanc - Panel 2
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y panel.
5 Dyfodol Dur yng Nghymru
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
5.1 O dan Reol Sefydlog 17.49, roedd Huw Irranca-Davies AS, aelod o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith, hefyd yn bresennol yn y sesiwn hon.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw ac o’r eitem gyntaf yn y cyfarfod nesaf ar 11 Hydref 2023
6.1 Derbyniwyd y Cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o’r eitem gyntaf yn y cyfarfod nesaf ar 11 Hydref 2023.
7 Trafod tystiolaeth yn dilyn y cyfarfod
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd am bwysau costau byw a'r Warant i Bobl Ifanc, a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i drafod rhai materion ymhellach.
8 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio
8.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio.
8.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ragor o wybodaeth yn ymwneud â'r Memorandwm, yn enwedig Rhan 1 yn ymwneud â'r Cenadaethau Ffyniant Bro, a gwelliannau eraill i'r Bil y gallai fod angen cydsyniad y Senedd ar eu cyfer, cyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno’r adroddroddiad ar y Memorandwm, sef 13 Hydref.
9 Papur cwmpasu: Ymchwiliad i Ymchwil a Datblygu
9.1 Trafododd y Pwyllgor y papur a chytunodd ar y cwmpas a'r dull ar gyfer ymchwiliad lefel uchel undydd i Ymchwil a Datblygu.
10 Papur cwmpasu: Banc Datblygu Cymru
10.1 Trafododd y Pwyllgor y papur a chytunodd ar y cwmpas a'r dull ar gyfer ymchwiliad lefel uchel undydd i Fanc Datblygu Cymru.